OPIN-2024-0401 Harneisio potensial ynni adnewyddadwy yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/04/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r gwaith y mae RenewableUK Cymru yn ei wneud i ddod â chynrychiolwyr y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru ynghyd.
2. Yn cydnabod bod yn rhaid i ddiwydiant a Llywodraeth Cymru gydweithio er mwyn sicrhau Cymru sero net.
3. Yn nodi, er mwyn cyflawni hyn, bod angen camau gweithredu a chynnydd pellach mewn meysydd allweddol fel:
a) cynllunio a chaniatâd;
b) seilwaith grid; ac
c) porthladdoedd a chadwyni cyflenwi
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr y diwydiant, i ddarparu'r sylfaen dystiolaeth i gefnogi cyflymu prosiectau ynni adnewyddadwy ac i sicrhau dyfodol ynni glân i Gymru.