OPIN-2024-0398 Rhaid Achub Canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon. (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi adolygiad terfynol y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys ac argymhellion i gau canolfannau ambiwlans awyr Y Trallwng a Chaernarfon a bod barn aruthrol y cyhoedd yn erbyn eu cau.
2. Yn credu bod gwaith yr ambiwlans awyr yng nghanolbarth a gogledd Cymru yn hanfodol er mwyn darparu triniaeth frys sy'n achub bywydau a sicrhau amseroedd ymateb cyflym i ofal brys.
3. Yn cytuno ag ymgyrchwyr ymroddedig y byddai amseroedd ymateb arafach i rannau o ganolbarth a gogledd Cymru gan ambiwlans awyr Cymru pe bai argymhellion yr adolygiad yn cael eu cytuno.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd a sicrhau bod y ddwy ganolfan yn parhau i weithredu.