OPIN-2024-0397 Etholiad Arlywyddol Rwsia (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn condemnio'r etholiad sy'n digwydd ar hyn o bryd yn Rwsia sydd wedi'i gynllunio dim ond i ddwysáu cyfundrefn awdurdodaidd ac imperialaidd Vladimir Putin.
2. Yn gresynu bod diffyg llais democrataidd priodol gan bobl Rwsia a bod y gwrthbleidiau yn cael eu hatal a'u herlid yn greulon.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynegi ei hundod ag ymgyrchwyr sydd o blaid democratiaeth ac yn erbyn rhyfel yn Rwsia.