OPIN-2024-0396 Craig Sirhywi: Trysor yn ne Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r camau gan Gyngor Mynydda Prydain i ddiogelu Craig Sirhywi drwy roi cynnig i brynu'r safle ar ran y gymuned ddringo.
2. Yn nodi'r canlynol:
a) Mae gan Graig Sirhywi, lleoliad dringo tywodfaen, dros 5000 ddigwyddiadau dringo wedi'u cofnodi; 79 o lwybrau, ac mae wedi bod yn fan hynod boblogaidd i ddringwyr dros y blynyddoedd;
b) byddai perchnogaeth gan Gyngor Mynydda Prydain yn sicrhau y bydd y tir yn cael ei gofrestru fel mynediad agored, gan ei ddiogelu ar gyfer dringwyr am byth; ac
c) byddai gan ddringwyr lleol rôl o ran rheoli'r safle, gwella seilwaith, gwella cynefinoedd, a dangos stiwardiaeth gyfrifol.