OPIN-2024-0395 Dathlu 200 mlwyddiant yr RNLI (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn dathlu 200 mlynedd ers sefydlu Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae'r elusen wedi'i wneud i gadw arfordiroedd yng Nghymru yn ddiogel ers dwy ganrif.
3. Yn nodi fod yr elusen, ers ei chreu 200 mlynedd yn ôl, wedi achub bron i 13,000 o fywydau yng Nghymru.
4. Yn rhoi ar gof a chadw ein diolch i wirfoddolwyr, ddoe a heddiw, sydd wedi rhoi o'u hamser i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ddiogel ar y môr.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn y dyfodol i gefnogi ei waith.