OPIN-2024-0393 Cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a'u teuluoedd - amser i unioni 22 mlynedd o anghyfiawnder (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cefnogi cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a theuluoedd y rhai sydd wedi marw, yn eu 22 mlynedd o ymgyrchu dros gyfiawnder pensiwn.
2. Yn anghytuno'n gryf â Llywodraeth y DU o ran darparu gweithwyr â dim ond 90 y cant o'u pensiynau dyledus, a bod hyn, oherwydd chwyddiant, yn llawer is.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar y Gweinidog Gwladol dros Bensiynau i unioni'r anghyfiawnder amlwg hwn.
4. Yn llongyfarch gwaith ymgyrchwyr sgandal Horizon sydd wedi codi proffil anghyfiawnderau hanesyddol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried datganoli pensiynau.