OPIN-2024-0391 Cynhyrchu ynni gwynt arnofiol ar y môr (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi potensial enfawr gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd.
2. Yn ymrwymo i safleoedd profi ac arddangos, fel prosiectau Llŷr 1 a 2, o ystyried y rôl allweddol y bydd ganddi o ran:
a) gweithredu i fraenaru er mwyn cyflymu datblygiad gwynt arnofiol ar y môr;
b) rhoi cyfle i ddeall y manteision a'r heriau yn well a nodi cyfleoedd i wella'r amgylchedd lleol; ac
c) manteisio'n llawn ar y gadwyn gyflenwi leol a chyfleoedd cyflogaeth.
3. Yn mynd i weithio i helpu i ddatgloi unrhyw oedi a fyddai'n effeithio ar gyflawni'r prosiectau hyn wrth helpu i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth ar gyfer ynni adnewyddadwy.