OPIN-2024-0390 Gwarchod ein Casgliadau Cenedlaethol (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2024

Creda’r Senedd hon:
1. Bod casgliadau cenedlaethol Cymru, sydd dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn berchen i bawb yng Nghymru.
2. Eu bod angen eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed.
3. Bod mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn lwyddiant di-amheuol ers cyflwyno’r polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod.
4. Y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, a’r undebau sy’n cynrychioli eu staff, i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol.