OPIN-2024-0389 Cyflog Teg i Weithwyr Cymorth Digartrefedd a Thai (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn ei Rhaglen Lywodraethu.
2. Yn nodi pwysigrwydd gweithlu medrus a gwydn i gyflawni'r uchelgais o ddod â digartrefedd i ben.
3. Yn nodi ymchwil Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru sy'n dangos bod 41 y cant o weithwyr cymorth digartrefedd a thai yn cael eu talu llai ar hyn o bryd na'r isafswm cyflog sydd ar ddod (Ebrill 2024), a bod 67 y cant yn cael eu talu llai na'r Cyflog Byw Gwirioneddol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r Grant Cymorth Tai ar gyfer 2024/25 i alluogi gweithwyr i gael eu talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.