OPIN-2024-0388 Wythjnos Brentisiaethau 2024 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod 5 – 11 Chwefror yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.
2. Yn dathlu'r manteision sylweddol i brentisiaid a chyflogwyr.
3. Yn croesawu cyfraniad cadarnhaol prentisiaethau i economïau lleol ac economi genedlaethol Cymru.
4. Yn nodi'r ddarpariaeth brentisiaethau o ansawdd uchel ac sydd wedi'i datblygu'n dda gan golegau addysg bellach a darparwyr dysgu sy'n seiliedig ar waith ledled Cymru.
5. Yn credu bod prentisiaethau yn haeddu parch cyfartal â mathau eraill o addysg a hyfforddiant ac mae gweithlu datblygedig a medrus iawn yn ganolog i gynlluniau ar gyfer tyfu ein heconomi.
6. Yn credu bod yn rhaid i gydraddoldeb parch fynd law yn llaw â chydraddoldeb cefnogaeth.