OPIN-2024-0387 Cydnabod Gwladwriaeth Palesteina (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/05/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y cysylltiadau hanesyddol rhwng pobl Palesteina a phobl Cymru. 2. Yn ailddatgan ei galwadau am gadoediad ar unwaith ar bob ochr, rhyddhau pob gwystl, a therfyn ar y gwrthdaro yn Gaza.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydnabod Gwladwriaeth Palesteina ar unwaith fel cam cyntaf mewn proses i alluogi llwybr i heddwch parhaol a datrysiad dwy wladwriaeth.