OPIN-2024-0386 Gweithwyr meddygol yn Gaza
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 02/02/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod ac yn cefnogi Cynnig cynnar-yn-y-dydd 327 a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin gan Richard Burgon AS ar 26 Ionawr 2024.
2. Yn cefnogi enwebu gweithwyr gofal iechyd yn Gaza ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel 2024.
3. Yn cydnabod y boen y mae gweithwyr gofal iechyd Cymru wedi'i theimlo wrth weld eu cydweithwyr yn cael eu lladd wrth weithio.
4. Yn galw ar bob ochr yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina i barchu dyletswydd i niwtraliaeth feddygol mewn rhyfel.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod meddygon o Gymru sydd wedi gwirfoddoli yn y gwrthdaro yn dychwelyd yn ddiogel.