OPIN-2024-0385 Pwysigrwydd cynnal cynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan gynhyrchu dur sylfaenol yn economïau Cymru a'r DU.
2. Yn gresynu y bydd cynigion presennol Tata yn dod â chynhyrchu dur sylfaenol i ben yng Nghymru erbyn diwedd 2024.
3. O'r farn nad yw'r cynigion presennol gan Tata yn golygu y bydd y broses o bontio i ddigwydiant dur wedi'i ddatgarboneiddio yn gyfiawn ac yn deg.
4. Yn galw ar Tata i beidio â brwrw ymlaen â'i benderfyniad i ddod â chynhyrchu dur sylfaenol i ben yng Nghymru eleni ac i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r undebau llafur i ddarparu diwydiant dur wedi'i ddatgarboneiddio sy'n cynnal gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru.

Cyflwynwyd gan