OPIN-2024-0384 Datganoli Ystad y Goron i Gymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu ymgyrch newydd y grŵp llawr gwlad Siarter Cartrefi i ddatganoli Ystad y Goron i Gymru.
2. Yn nodi argymhelliad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru y dylid, erbyn 2030, datganoli swyddogaethau Ystad y Goron yng Nghymru yn llwyr i gorff newydd sydd, fel ei brif nod, yn ailfuddsoddi'r holl arian yng Nghymru er lles hirdymor pobl Cymru ar ffurf cronfa cyfoeth sofran.
3. Yn nodi galwad Ynni Cymunedol Cymru y byddai rheolaeth Llywodraeth Cymru dros Ystâd y Goron yn ein galluogi i gael effaith ar fforddiadwyedd trwyddedu ffermydd gwynt ar y môr.