OPIN-2024-0383 Cadw Safleoedd Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng yn Weithredol (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y gwasanaeth amhrisiadwy a ddarperir gan Ambiwlans Awyr Cymru.
2. Yn nodi gyda phryder yr adroddiadau diweddar sy'n awgrymu y bydd safleoedd yr ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn cau i greu un safle canolog yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
3. Yn cydnabod yr ymgyrchu eang i gadw'r safleoedd hyn.
4. Yn mynegi pryder dwfn ynghylch sut y byddai'r penderfyniad hwn yn effeithio'n negyddol ar ardaloedd gwledig, anodd eu cyrraedd yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn adolygiad y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys o'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys a sicrhau bod safleoedd y Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol.