OPIN-2024-0382 Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd - Cwpan yr FA 2023/24
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd ar gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan yr FA.
2. Yn dymuno pob lwc i Glwb Pêl-droed Sir Casnewydd yn eu gêm nesaf yn erbyn Manchester United o'r Uwch Gynghrair.
3. Yn cofio gorchestion diweddar y clwb yng Nghwpan yr FA, a oedd yn cynnwys gemau cyfartal cofiadwy yn erbyn Manchester City, Tottenham Hotspurs a Dinas Caerlŷr.
4. Yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y mae Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd yn ei chael yn y ddinas, i gymunedau lleol, ond hefyd i fusnesau lleol a'r economi ehangach.