OPIN-2024-0381 Mynd i'r afael â thlodi drwy addysg, sgiliau a hyfforddiant (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae addysg, sgiliau a hyfforddiant yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â thlodi.
2. Yn cytuno mai gwaith sy'n talu'n dda yw'r llwybr gorau allan o dlodi a'r amddiffyniad mwyaf yn erbyn tlodi i'r rhai sydd mewn perygl.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl o bob oed yng Nghymru yn cael gafael ar hyfforddiant, addysg a chymorth cyflogadwyedd priodol ac amserol, i'w helpu i ddod o hyd i swydd, prentisiaeth, neu ddod yn hunangyflogedig.