OPIN-2024-0379 Wythnos Atal Canser Ceg y Groth 2024 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/01/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod wythnos 22 Ionawr 2024 yn nodi Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, cyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd brechlynnau HPV a sgrinio serfigol, a sut y gallant helpu i atal canser ceg y groth.
2. Yn cydnabod y gellir dileu canser ceg y groth drwy'r dulliau atal hyn.
3. Yn cydnabod bod anghydraddoldebau sylweddol yn y nifer sy'n manteisio ar sgrinio serfigol a brechlynnau HPV.
4. Yn deall nad yw sgrinio bob amser yn hawdd i bawb.
5. Yn tynnu sylw at Jo's Cervical Cancer Trust sy'n parhau i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth.
6. Yn annog Aelodau o'r Senedd i gefnogi ei gwaith a'i hymgyrch, a rhannu adnoddau gydag etholwyr ledled Cymru.