OPIN-2024-0378 Cefnogi Ymdrechion Rhyngwladol i Atal y Trais yn Gaza (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y trais parhaus yn Gaza sydd wedi arwain at dros 22,000 o farwolaethau.
2. Yn croesawu cais De Affrica am fesurau dros dro gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i atal gweithredoedd hil-laddiad.
3. Yn annog Llywodraeth y DU i gynnal eu dyletswydd i atal hil-laddiad o dan Gonfensiwn Hil-laddiad 1948 ac i osgoi bod â rhan ynddo.
4. Yn parhau i gefnogi'r rhai yng nghymdeithas Cymru sy'n galw am gadoediad ar unwaith, am ryddhau gwystlon o Israel a charcharorion o Balesteina, ac am roi diwedd ar y gwarchae.
5. Yn galw ar Israel i gydymffurfio ag unrhyw 'fesurau dros dro' rhwymol sy'n deillio o hynny gyda'r nod o ddiogelu hawliau dynol Palestiniaid, gan gynnwys cadoediad.