OPIN-2024-0377 Sgandal Swyddfa'r Post (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn canmol ymgyrch barhaus Alan Bates, Noel Thomas ac eraill i unioni'r achos hwn o gamweinyddu cyfiawnder a gyflawnwyd gan Swyddfa'r Post yn erbyn is-bostfeistri Swyddfa'r Post.
2. Yn ceisio rhyddhad ac iawndal ar frys i holl ddioddefwyr sgandal TG Horizon.
3. Eisiau i Fujitsu a Swyddfa'r Post fod yn atebol am osgoi a dweud celwyddau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i:
a) dileu euogfarnau'r is-bostfeistri; a
b) mynnu bod yr holl is-bostfeistri a gyhuddwyd ar gam o ddwyn arian gan Swyddfa'r Post yn cael iawndal am eu colledion sydd wedi newid eu bywydau.