OPIN-2023-0375 Dechrau newydd i Newport Wafer Fab (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu bwriad Vishay Intertechnology i gaffael Newport Wafer Fab, ffatri lled-ddargludyddion fwyaf y DU.
2. Yn cymeradwyo gwaith Cymdeithas Staff Nexperia Casnewydd yn sefyll dros ddyfodol hirdymor i'r safle.
3. Yn nodi:
a) y gweithlu medrus ymroddedig, a'r gefnogaeth gref gan academyddion, busnesau, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru sy'n gwneud Casnewydd yn lle gwych, uchelgeisiol ar gyfer y buddsoddiad hwn; a
b) y gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ar gyfer y fenter hon.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y broses fetio diogelwch cenedlaethol yn cael ei chynnal i sicrhau'r buddsoddiad arfaethedig hwn.