Mae'r Senedd hon:
1. Yn coffáu Diwrnod AIDS y Byd ac yn cofio'r rhai a gollwyd a'r rhai sy'n byw gyda'r feirws heddiw.
2. Yn cydnabod bod disgwyliad oes arferol gan bobl sy'n byw gyda HIV sydd ar driniaeth effeithiol, ac na allant ei drosglwyddo.
3. Yn croesawu Cynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru, a'r gefnogaeth drawsbleidiol barhaus i'r targed o ddod â throsglwyddiadau newydd i ben erbyn 2030, dileu'r stigma sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda HIV a sefydlu cymorth cymheiriaid cenedlaethol i'r rhai sy'n byw gyda'r feirws yng Nghymru.
4. Yn cefnogi galwadau Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru i warantu'r cyllid pwrpasol pwysig sy'n sail i'r Cynllun Gweithredu i sicrhau bod y targedau hanfodol ynddo yn cael eu cyflawni.