Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu ymdrechion manwerthwyr i helpu defnyddwyr i fyw bywydau mwy cynaliadwy er gwaethaf yr her costau byw.
2. Yn nodi Arddangosfa Cynllun Gweithredu ar Hinsawdd Consortiwm Manwerthu Cymru a dynnodd sylw at y mentrau cynaliadwyedd gorau ym maes manwerthu.
3. Yn llongyfarch y 30 o gwmnïau a gymerodd ran yn y gwobrau ac enillwyr y gwobrau am fod y gorau yn eu dosbarth, gan gynnwys cynllun blaendal digidol Ocado; Screwfix, a gyflwynodd Cerbydau Nwyddau Trwm yn rhedeg ar olew llysiau wedi'i drin â hydrogen, gan dorri 2,000 tunnell o CO2e; Currys, a wnaeth 1.3m o atgyweiriadau i hen dechnoleg y llynedd a John Lewis sy'n defnyddio technoleg efaill digidol i gyflwyno pympiau gwres i 350 o siopau.