OPIN-2023-0371 Diwrnod COPD y Byd 2023 - 15 Tachwedd
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2023
Bod y Senedd hon:
1. Yn croesawu'r cyfle i dynnu sylw at glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint drwy Ddiwrnod COPD y Byd ar 15 Tachwedd 2023.
2. Yn nodi bod dros 82,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.
3. Yn nodi bod 31 y cant o'r rhai â COPD a ymatebodd i arolwg Life with a Lung Condition yn 2023 gan Asthma and Lung UK wedi rhoi'r gorau i weithio oherwydd eu diffyg anadl, a bod llawer o bobl eraill yn lleihau eu horiau gwaith, yn ymddeol, neu'n marw yn gynt na'r rhai heb COPD.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol.