OPIN-2023-0370 Gwrthdaro Israel a Gaza (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/10/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn mynegi pryder dwys ynghylch y drasiedi barhaus yn Israel a Gaza.
2. Yn condemnio'r ymosodiadau ar ddinasyddion Israel a'r arfer o gymryd gwystlon.
3. Yn bryderus iawn ynghylch y bomio a'r gwarchae yn Gaza sy'n arwain at golli bywydau.
4. Yn estyn cydymdeimlad dwysaf â dinasyddion Cymru sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y gwrthdaro.
5. Yn galw am ddod â'r gwarchae i ben er mwyn caniatáu cyflenwadau hanfodol i'r ardal yn y cyfaint angenrheidiol, cadoediad ar unwaith a rhyddhau gwystlon.
6. Yn annog y gymuned ryngwladol i adnewyddu ymrwymiad a gweithredu i gyflawni datrysiad dwy wladwriaeth a heddwch parhaol.