OPIN-2023-0369 Ymosodiadau Hamas ar Israel (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2023

Mae'r Senedd hon:

1. Yn condemnio'r ymosodiadau, trais a gweithredoedd terfysgol gan Hamas yn erbyn Israel dros y diwrnodau diwethaf.

2. Yn galw am roi terfyn ar dargedu, lladd a herwgipio sifiliaid diniwed.

3. Yn gresynu at y ffaith i bobl ddiniwed golli eu bywydau a chael eu hanafu yn Israel a Gaza.

4. Yn estyn cydymdeimlad dwysaf pobl ledled Cymru i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid.

5. Yn cydnabod hawl Gwladwriaeth Israel i amddiffyn ei hun a'i dinasyddion.

6. Yn annog arweinwyr gwleidyddol yn Israel a Phalesteina i weithio ar frys i ddod â'r gwrthdaro i ben ac ymgysylltu â'r gymuned ryngwladol i drafod setliad heddwch parhaol.