OPIN-2023-0368 Diwrnod Gwrth-gaethwasiaeth 2023 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2023

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi y bydd digwyddiadau ar 18 Hydref 2023 yn cael eu cynnal ledled y DU i gydnabod bod dynion, menywod a phlant yn parhau i ddioddef y fasnach gaethweision fodern, er gwaethaf diddymu'r fasnach gaethweision drawsatlantig dros 200 mlynedd yn ôl.

2. Yn cydnabod bod y diwrnod hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o beryglon caethwasiaeth fodern, gan gynnwys masnachu mewn pobl a chamfanteisio, ac yn annog pobl i fod yn rhagweithiol yn eu brwydr yn erbyn caethwasiaeth.

3. Yn nodi'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Bawso, Sefydliad y Merched, Soroptimyddion, y Blaid Gydweithredol a sefydliadau eraill y trydydd sector, yr heddlu a sefydliadau cyhoeddus eraill wrth fynd i'r afael â'r mater hwn.