OPIN-2023-0366 Cefnogaeth i Gristnogion Pacistanaidd (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod cyfraniad Cristnogion o dreftadaeth Pacistanaidd i gymdeithas sifil Cymru.
2. Yn condemnio'r fandaliaeth a'r ymosodiadau diweddar ar eglwysi a chartrefi Cristnogion diniwed ym Mhacistan, yn enwedig yn ninas Jaranwala.
3. Yn galw ar Lywodraethau'r DU a Chymru i godi ymwybyddiaeth o helyntion parhaus Cristnogion ym Mhacistan a defnyddio eu dylanwad i hyrwyddo rhyddid crefydd gartref a thramor.