OPIN-2023-0365 Diwrnod Rhyngwladol Aer Glân ar gyfer Awyr Las 2023
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2023
Y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod 7 Medi yn Ddiwrnod Rhyngwladol Aer Glân ar gyfer Awyr Las; a
b) cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yn y Senedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yn gosod targedau ansawdd aer ar gyfer yr holl lygryddion sy'n dod o dan Ganllawiau Ansawdd Aer Sefydliad Iechyd y Byd erbyn diwedd 2026;
b) cyhoeddi cynigion ar frys i fynd i'r afael â llosgi domestig a'i effeithiau negyddol; ac
c) cyflwyno ymgyrchoedd gwybodaeth wedi'u targedu ar effeithiau llygredd aer. ar iechyd a'r amgylchedd.