OPIN-2023-0360 Argyfwng dyngarol yn Nwyrain Affrica (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi cyllid dyngarol a datblygu gwerth £861m a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU yn 2017-18 i atal newyn eang ar draws Somalia, De Swdan, Ethiopia a Kenya.
2. Yn nodi bod Oxfam yn amcangyfrif bod un person yn debygol o farw bob 28 eiliad o newyn yn y gwledydd hyn dros y misoedd nesaf.
3. Wedi ei siomi gan doriadau olynol yng nghyllid Llywodraeth y DU i Ddwyrain Affrica dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyllidebu dim ond £114.7m ar gyfer y gwledydd hyn sydd fwyaf mewn perygl o newyn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu £900m o gymorth dyngarol a datblygu ar unwaith i Somalia, Kenya, De Swdan ac Ethiopia.