OPIN-2023-0359 Achub ein Meddygfeydd - BMA Cymru Wales (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod ymarfer cyffredinol yn un o sylfeini craidd system iechyd cost-effeithiol o ansawdd uchel.
2. Yn cydnabod bod ymarfer cyffredinol yng Nghymru dan straen sylweddol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i ddarparu cyllid priodol ar gyfer ymarfer cyffredinol;
b) gweithredu nifer uchaf safonol o gleifion y gall meddygon teulu eu gweld yn rhesymol yn ystod y dydd i gynnal gwasanaethau diogel o ansawdd uchel;
c) datblygu strategaeth i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, yn recriwtio ac yn cadw mwy o feddygon teulu; a
d) llunio cynlluniau hirdymor i wella lles corfforol, meddyliol ac emosiynol y gweithlu.