OPIN-2023-0356 Cydnabod ymdeimladoldeb anifeiliaid yng nghyfraith Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi canfyddiadau mynegai caredigrwydd 2023 yr RSPCA sy'n dangos dealltwriaeth amrywiol y cyhoedd o ymdeimladoldeb anifeiliaid.
2. Yn cydnabod y gallai diffyg dealltwriaeth o ymdeimladoldeb gyfrannu tuag at greulondeb anifeiliaid yng Nghymru.
3. Yn credu y gellid manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a ddarperir gan y cwricwlwm newydd drwy gwmpasu ymdeimladoldeb anifeiliaid mewn ysgolion o dan faes dysgu a phrofiad perthnasol.
4. Yn teimlo bod angen dirfawr i gydnabod ymdeimladoldeb yn erbyn cefndir yr argyfwng costau byw sy'n cyfrannu at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid a gaiff eu gadael.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori ymdeimladoldeb anifeiliaid yng nghyfraith Cymru.