OPIN-2023-0355 Cynlluniau llaeth ysgol yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi'r gred y dylai Llywodraeth Cymru barhau i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan i sefydlu datrysiad ariannu parhaol ar gyfer cynlluniau llaeth ysgol.
2. Yn nodi ymhellach y rôl bwysig y mae llaeth yn ei chwarae o ran helpu plant o bob cefndir economaidd-gymdeithasol i atal llwgu a sicrhau iechyd deintyddol ac esgyrn parhaol.
3. Yn nodi bod y rôl y mae llaeth yn ei chwarae i blant yn arbennig o bwysig yn ystod yr argyfwng costau byw.
4. Yn galw am gydnabod rôl hanfodol llaeth ysgol o ran gwella canlyniadau addysg ac iechyd i blant drwy ddathlu Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd ar 27 Medi.