OPIN-2023-0354 Wythnos Hosbisau Plant (19 - 25 Mehefin) (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod ei bod hi'n Wythnos Hosbisau Plant yr wythnos hon (19 i 25 Mehefin). 2. Yn cydnabod pwysigrwydd hosbisau plant a gwasanaethau gofal lliniarol ledled Cymru, a'r cymorth y maent yn ei ddarparu i bobl ifanc ddifrifol wael a'u teuluoedd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau a chryfhau'r gwaith partneriaeth rhyngddi hi a'r sector hosbisau plant.
4. Yn galw ar gwmnïau ynni i weithio gyda hosbisau plant i leddfu'r baich ariannol arnynt yn ystod yr argyfwng costau byw.