OPIN-2023-0353 Cofio tân Tŵr Grenfell (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod eleni'n nodi chwe blynedd ers i 72 o fywydau gael eu colli yn y tân yn Nhŵr Grenfell.
2. Yn cydnabod y cysylltiadau rhwng amddifadedd economaidd a digwyddiadau tân, a'r anghydraddoldebau amlwg a amlygwyd gan y drychineb.
3. Yn nodi'r ymchwiliad parhaus ac yn mynegi pryder nad oes unrhyw un wedi cael ei ddal yn atebol am faterion diogelwch adeiladau systemig.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad posibl i sicrhau adferiad ac atebolrwydd brys.