OPIN-2023-0352 Diwrnod Aer Glân (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/06/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r cyfle i ddathlu Diwrnod Aer Glân ar 15 Mehefin 2023.
2. Yn nodi bod bron i 2,000 o bobl yn marw yn gynnar bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd llygredd aer.
3. Yn nodi gwaith Awyr Iach Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddeddf Aer Glân i Gymru i godi ymwybyddiaeth o beryglon llygredd aer.
4. Yn croesawu Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) a'r ymrwymiad i roi'r hawl i bawb anadlu aer glân.
5. Yn galw ar bob plaid i gydweithio i gryfhau'r Bil fel bod terfynau ansawdd aer newydd yn dilyn canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd.