OPIN-2023-0351 Llongyfarchiadau i Geraint Thomas (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2023

Mae’r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Geraint Thomas ar ei lwyddiant diweddar yn y Giro d’Italia.
2. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae Geraint Thomas wedi'i wneud i hybu seiclo yng Nghymru a thu hwnt, ac i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd.
3. Yn dymuno’n dda i ‘G’ yn y dyfodol wrth iddo fynd ati i barhau i gystadlu ar y lefel uchaf o seiclo broffesiynol.