OPIN-2023-0350 Baton of Hope (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/05/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi mai hunanladdiad yw'r achos mwyaf o farwolaeth ymhlith dynion a menywod o dan 35 oed yn y DU.
2. Yn cydnabod nad yw llawer o'r rhai sy'n marw drwy hunanladdiad wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl flwyddyn cyn eu marwolaeth.
3. Yn croesawu ymweliad Baton of Hope â Chaerdydd ar 1 Gorffennaf 2023, yn hyrwyddo'r neges, "Lle mae gobaith, mae cyfle go iawn i achub bywydau".
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau pellach ar fentrau ymwybyddiaeth ac atal hunanladdiad.