OPIN-2023-0349 Dod â rasio milgwn i ben yng Nghymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 25/05/2023
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi deiseb y Senedd a lofnodwyd gan 18,707 o bobl o Gymru, yn galw am wahardd rasio milgwn yng Nghymru.
2. Yn cydnabod y gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ac ymhlith y cyhoedd yng Nghymru am roi terfyn ar rasio milgwn yng Nghymru.
3. Yn credu nad oes modd cyfiawnhau'r risg o anaf a marwolaeth i filgwn rasio milgwn at ddibenion adloniant. 4. Yn cydnabod bod materion lles yn effeithio ar filgwn rasio ar bob cam o'u bywydau: o'r crud i'r bedd.
5. Yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ddod â rasio milgwn i ben yng Nghymru.