OPIN-2023-0348 Undeb Prifysgol a Choleg Cymru - Amddiffyn Partneriaeth Gymdeithasol
(d)
Datganodd yr Aelod fuddiant
Wedi’i gyflwyno ar 19/05/2023
Mae'r Senedd hon :
1. Yn nodi bod UCU Cymru wedi cyhoeddi boicot marcio ac asesu, yn dilyn ei anghydfod ar gyflog ac amodau.
2. Yn nodi ymateb anghymesur llawer o is-gangellorion sefydliadau addysg uwch Cymru wrth orfodi didyniadau o hyd at 100 y cant o gyflog.
3. Yn credu, ymhell o ddod â'r anghydfod yn nes at ddatrysiad, fod y gweithredoedd hyn yn niweidio perthnasoedd diwydiannol ac yn dwyshau anghydfod drwy orfodi staff i streicio, gan niweidio ymhellach budd myfyrwyr.
4. Yn gofyn i Lywodraeth Cymru annog is-gangellorion SAU Cymru i weithredu yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol a chwrdd ag undebau wrth y bwrdd negodi.