OPIN-2023-0347 Coeliac Awareness Week (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/05/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod clefyd seliag yn gyflwr awto-imiwn difrifol sy'n effeithio ar 1 ym mhob 100 o bobl.
2. Yn cydnabod nad yw dwy ran o dair o'r rhai sydd â'r cyflwr yng Nghymru, tua 20,000 o bobl, wedi cael diagnosis eto ac mai'r amser cyfartalog ar gyfer diagnosis i oedolyn yw 13 mlynedd.
3. Yn croesawu lansio ymgyrch wythnos ymwybyddiaeth Coeliac UK (15-21 Mai), 'Coeliac Disease is Different for Everyone', sy'n ceisio tynnu sylw at symptomau anesboniadwy'r cyflwr, sy'n aml yn nychus.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu llwybr seliag i gefnogi gwell diagnosis a thriniaeth.