OPIN-2023-0346 Undod â phobl Somaliland (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y cysylltiadau diplomyddol hirsefydlog rhwng Cymru a Somaliland.
2. Yn eirioli dros gydnabod Somaliland yn rhyngwladol fel gwladwriaeth sofran.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cymorth i Somalia o ran diogelwch, datblygiad economaidd a chymorth dyngarol.
4. Yn sefyll mewn undod â phobl Somaliland yn eu hymrwymiad i ddemocratiaeth a sefydlogrwydd.