OPIN-2023-0345 Nakba Commemoration 'Memory of the Catastrophe'
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2023
Mae'r Senedd hon:
1. Yn coffau'r tua 750,000 o Balesteiniaid a ffodd neu a ddiarddelwyd o'u cartrefi yn dilyn y rhyfel Arabaidd-Israelaidd a ddechreuodd ar 15 Mai 1948, ynghyd â'r ymladd Arabaidd-Israelaidd yn y Lan Orllewinol a Llain Gaza ym mis Mehefin 1967.
2. Yn galw am gefnogaeth barhaus i'r pum miliwn o Balestiniaid sydd wedi'u cofrestru gan y Cenhedloedd Unedig fel ffoaduriaid sy'n byw yng ngwlad yr Iorddonen yn bennaf, ac yna Llain Gaza, y Lan Orllewinol, Syria, Libanus, a Dwyrain Jerwsalem.
3. Yn gofyn i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU am gefnogaeth i gymodi rhwng Palestiniaid ac Israeliaid i hwyluso sefydlu datrysiad dwy wladwriaeth.