OPIN-2023-0343 Nid yw cydnabod arian parod yn gweithio i bawb
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2023
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod pryder y cyhoedd am fodelau busnes di-arian a'r ffaith nad ydynt yn gynhwysol o bobl sydd ag anableddau dysgu.
2. Yn cydnabod bod llawer o bobl sydd ag anableddau dysgu yn dibynnu ar arian parod, gan nad oes ganddynt fynediad at gerdyn debyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog cynwysoldeb ym mhob model busnes.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl gefnogaeth i fusnesau ac unigolion wedi ei chyfeirio'n glir a'i hyrwyddo yn enw cydraddoldeb a thryloywder.