OPIN-2023-0342 30 Mlynedd o Childline yn gweithredu allan o dde Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Childline ar 30 mlynedd o gefnogi plant a phobl ifanc yn y ganolfan yn ne Cymru.
2. Yn cydnabod bod Childline yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sydd ar gael ar-lein, ar y ffôn, unrhyw bryd i blant a phobl ifanc ofyn am gymorth a chyngor.
3. Yn nodi bod cwnselwyr gwirfoddol Childline yn ne Cymru wedi darparu 4,865 o sesiynau cwnsela i blant a phobl ifanc yn 2021/22.
4. Diolch i wirfoddolwyr gwych Childline sy'n rhoi o'u hamser bob wythnos i helpu plant a phobl ifanc, gan gynnwys yn ystod y pandemig.
5. Cymeradwyo cefnogwyr a staff am sicrhau bod Childline yn gallu bod yno ar gyfer pob plentyn.