OPIN-2023-0339 Rheilffordd Cymru: heb ei werthfawrogi ac wedi'i danariannu gan Lywodraeth y DU (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/03/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod buddsoddiad mewn rheilffyrdd yn hanfodol i leihau allyriadau carbon a hybu twf economaidd;
b) effeithiau niweidiol tanfuddsoddi biliynau o bunnoedd dros sawl blwyddyn mewn rheilffyrdd yng Nghymru gan Lywodraeth Geidwadol y DU;
c) na fydd unrhyw draciau newydd yng nghynlluniau Northern Powerhouse Rail a HS2 yn cael eu gosod yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddyrannu i Gymru:
a) £5 biliwn o symiau canlyniadol o'r gwariant HS2 yn Lloegr;
b) £1 biliwn o symiau canlyniadol o wariant Northern Powerhouse Rail yn Lloegr;
c) swm ychwanegol gwerth sawl biliwn o bunnoedd sy'n hafal i'r tanfuddsoddiad hanesyddol ers 2010.