OPIN-2023-0338 S4C: trysor cenedlaethol a byd-eang (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/03/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod S4C wedi lansio ar 1 Tachwedd 1982, yn dilyn degawdau o ymgyrchu gan filoedd o bobl yn galw am greu sianel deledu Gymraeg; a
b) y caiff Cadeirydd S4C ac aelodau o'r bwrdd unedol eu penodi gan Lywodraeth y DU.
2. Yn credu:
a) bod S4C wedi cyfrannu'n anfesuradwy at gyfoeth diwylliannol Cymru a'r byd;
b) bod S4C yn llwyfan hanfodol i'r Gymraeg; ac
c) bod S4C yn drysor diwylliannol y mae'n rhaid ei warchod;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru fynnu datganoli darlledu.
4. Yn gofyn bod cadeirydd a bwrdd unedol S4C yn cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru.