OPIN-2023-0337 Papur bro cyntaf Cymru - Y Dinesydd (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi y cyhoeddwyd papur bro cyntaf Cymru yn Ebrill 1973, sef papur bro Caerdydd a’r Cylch, y Dinesydd.
2. Yn llongyfarch y gwirfoddolwyr sydd wedi sicrhau bod y Dinesydd wedi parhau am 50 mlynedd.
3. Yn nodi cyhoeddiad Gweinidog y Gymraeg ac Addysg fod y rhwydwaith o bapurau bro ymysg y sefydliadau a phrosiectau a fydd yn rhannu dros chwarter miliwn o gyllid ychwanegol i helpu gynyddu defnydd o’r Gymraeg.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i barhau'r gefnogaeth rhwydwaith papurau bro fel rhan o ymgyrch i gynyddu nifer siaradwyr yr iaith a chyrraedd targed o filiwn erbyn 2050.