OPIN-2023-0336 Diwrnod ymwybyddiaeth COVID hir rhyngwladol 2023 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi â prhyder ffigyrau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dangos bod gan tua 95,000 o bobl yng Nghymru COVID hir, ac yn gresynu at effaith y cyflwr hwn arnynt.
2. Yn nodi'r effaith y mae hyn yn ei chael ar ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud pobl yn rhy sâl i weithio ac o bosibl yn achosi ansicrwydd ariannol oherwydd tâl salwch statudol annigonol.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r rhaglen Adferiad yn gyson, gan ymgysylltu â chynrychiolwyr cleifion i sicrhau ei bod yn adlewyrchu eu hanghenion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymuno â TUC Cymru drwy roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gydnabod COVID hir fel anabledd.