OPIN-2023-0334 Diogelu ein pyllau nofio (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/03/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi canfyddiadau Community Leisure UK, y corff aelodaeth sy'n cynrychioli ymddiriedolaethau elusennol sy'n gweithredu bron i 900 o byllau nofio cymunedol ledled y DU, fod hanner y cyfleusterau nofio hynny yn wynebu cau neu leihau gwasanaethau o fewn chwe mis o ganlyniad uniongyrchol i gynnydd enfawr mewn costau pŵer.
2. Yn cydnabod y byddai 17,000 o swyddi mewn perygl dros y cyfnod hwnnw.
3. Yn credu bod nofio yn sgil bywyd hanfodol a bod cyfleusterau hamdden yn fodd i gefnogi iechyd a llesiant.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i adolygu ei phenderfyniad ar frys i adael cyfleusterau nofio allan o gymorth parhaus ar gyfer costau ynni cynyddol.